SL(5)412 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013.  Dim ond yr olaf o'r rhain a wnaed yn ddwyieithog, a dyna pam mae'r mewnosodiadau a wneir gan y Rheoliadau presennol yn Saesneg yn unig fel arall.

Mae’r diwygiadau yn gosod chwe dyletswydd, sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ar ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru drwy delerau eu cytundebau â Byrddau Iechyd Lleol.  Byddant yn gofyn i gontractwyr wneud y canlynol:

1.      Notify the Local Health Board of the service(s) it is willing to provide through the medium of Welsh;

2.    Make a Welsh language version of any document or form provided by the Local Health Board available to patients and/or members of the public;

3.    Display text on any new sign or notice relating to the service provided, in English and Welsh;

4.    Encourage the wearing of a badge, provided by the Local Health Board, by Welsh speakers, to convey that they are able to speak Welsh;

5.    Encourage those delivering services to utilise information and/or attend training courses and events provided by the Local Health Board, so that they can develop an awareness of the Welsh language (including awareness of its history and its role in Welsh culture) and an understanding of how the Welsh language can be used  when delivering services; and

6.    Encourage those delivering services to establish and record the Welsh or English language preference expressed by or on behalf of a patient. “

 

Mae rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (Rheoliadau’r Safonau) http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/441/pdfs/wsi_20180441_mi.pdf

yn nodi 121 o safonau sy’n berthnasol i Gynghorau Iechyd Cymuned, Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru.  Mae Safonau 65-68 yn ymwneud â gofal sylfaenol ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff hynny gefnogi darparu gwasanaethau yn Gymraeg gan ddarparwyr gofal sylfaenol drwy:

·         gynnal gwefan sy’n nodi’r rhai sy’n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg (safon 65);

·         darparu gwasanaeth cyfieithu ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol (safon 66);

·         darparu bathodynnau i’w staff eu gwisgo i gyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg (safon 67);

·         darparu cyrsiau hyfforddi yn ymwneud ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Gymraeg (safon 68).

Mae'r Rheoliadau presennol yn gosod dyletswyddau cysylltiedig ar ddarparwyr gofal sylfaenol.

Gwnaed Rheoliadau’r Safonau o dan Fesur y Gymraeg 2011 ac roeddent yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.  Gwneir y Rheoliadau presennol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac felly maent yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.  Ni fyddant felly yn cael eu trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol fel mater o drefn.

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cael sylwadau ynglŷn â chynnwys y Rheoliadau hyn ac felly bydd yn ystyried digonolrwydd y darpariaethau.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(vi) mewn perthynas â'r offeryn hwn – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol.

Mae gwaith drafftio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn anghyson.  Mae rhai pwerau a enwyd yn rhagair y Rheoliadau presennol yn cyfeirio yn benodol at Weinidogion Cymru.  Mae enghraifft yn adran 80 mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol.  Mae pwerau eraill a enwyd, fel adran 47 (mewn perthynas â chontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol), yn cyfeirio at reoliadau heb nodi pwy sydd i’w gwneud.  Mae angen cyfeirio at adran 206 i weld bod 'rheoliadau' yn golygu rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.  Felly, dylai'r adran honno fod wedi cael ei henwi ymhlith y pwerau galluogi, neu o leiaf mewn troednodyn. 

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.

1.    Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod chwe dyletswydd gytundebol ar gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.   Gellir cyferbynnu'r rhain â'r 121 o safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd eraill.

2.    Mae'r Rheoliadau lle mae’r dyletswyddau ychwanegol hyn yn cael eu mewnosod yn ei gwneud yn glir, mewn ffyrdd gwahanol, eu bod yn rhan o ddyletswyddau cytundebol contractwyr o'r dyddiadau y daw'r darpariaethau perthnasol i rym - sef 30 Mai 2019 mewn perthynas â'r dyletswyddau newydd hyn.  Fodd bynnag, nid oes dim yn y Nodyn Esboniadol i’r Rheoliadau presennol, na'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i esbonio bod y diwygiadau yn berthnasol i bob contract o'r dyddiad hwnnw ac nad ydynt wedi'u cyfyngu i gontractau newydd yr ymrwymir iddynt ar ôl y dyddiad hwnnw.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 20 Mai 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.

 

Yn ychwanegol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi’r pryderon a godwyd gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ei lythyr at y Gweinidog, dyddiedig 10 Mai 2019.